Neuadd Rhydypennau
Croeso i wefan Neuadd Rhydypennau, neuadd aml bwrpas ynghanol pentref Bow Street gyda thri gofod i’w llogi – neuadd fawr a dwy ystafell llai – ar gyfer amryw o weithgareddau.
Manylion llogi
Yn ogystal â’r tair ystafell sydd ar gael i’w llogi – y Brif Neuadd, Ystafell Leri, Ystafell Gyfarfod – mae gan y Neuadd faes parcio a chegin yn cynnwys tegell, wrn, oergell, ac ati.
Rydym yn llogi pob ystafell fesul awr. Cysylltwch am wybodaeth am brisiau, ffurflen llogi ac argaeledd.