
Mae pwyllgor y Neuadd wrthi’n creu arddangosfa dreftadaeth barhaol yn Neuadd Rhydypennau. Bydd cyfoeth o ddelweddau a gwybodaeth am y Neuadd a phentref Bow Street yn cael ei arddangos.
Y bwriad ydy cael nifer o wahanol arddangosfeydd bob ychydig fisoedd, gan gynnwys dathlu pen-blwydd 150 mlynedd Ysgol Rhydypennau yn 2026. Dewch i ymuno â ni ar gyfer lansiad y ddwy arddangosfa gyntaf: Blas ar Hanes y Neuadd sy’n cwmpasu hanes y Neuadd a’r pentref o’r 1920au cynnar hyd at heddiw (yr Athro Hywel Roberts ydy awdur a llefarydd y ffilm). Yn Helfa Gaerwen cawn sgwrs ddifyr rhwng y bardd a’r cyfarwydd Vernon Jones a Gareth William Jones am rai o’r gymeriadau mawr Bow Street. Bydd byrddau arddangos dwyieithog i’w gweld yn ogystal â fideos a sioeau-sleidiau.
Nos Wener Ebrill 4ydd 2025, 7yh. Mynediad am ddim. Lluniaeth ysgafn. Croeso i bawb.