Arddangosfa Treftadaeth Neuadd Rhydypennau

Ebr 10, 2025 | Newyddion

Yn y Neuadd mae yna arddangosfa gynhwysfawr a dwyieithog o hanes y Neuadd ers 1920 pan adeiladwyd yr adeilad gwreiddiol. 

Curadwyd yr arddangosfa gan Gordon Jones ac mae’n cynnwys wyth bwrdd arddangos dwyieithog yn y Neuadd ei hun ac un arall yn Ystafell Leri. Casglodd Gordon y deunydd o sawl ffynhonnell gan gynnwys Archifau Ceredigion, y Llyfgell Genedlaethol, Amgueddfa Ceredigion, a sawl cyfrannwr lleol. 

Yn ogystal â’r byrddau arddangos fe grewyd tair fideo hynod ddiddorol. Mewn un fideo cyfrwng Cymraeg, mae yna gyfweliad rhwng Gareth William Jones a’r bardd a ffermwr Vernon Jones am y cymeriadau a welir mewn llun o helfa a dynnwyd o flaen cartref Vernon yn 1912. Mae yna ddwy fideo arall, un yn y Gymraeg a’r llall yn Saesneg, lle mae’r Athro Hywel Roberts yn adrodd hanes y Neuadd o 1920 tan heddiw (gweler y dolenni isod). Seiliwyd fideo Hywel Roberts ar gofnodion cyfarfodydd pwyllgor y Neuadd, mantolenni ariannol a ffynonellau eraill. 

Bwriedir adnewyddu’r byrddau arddangos yn achlysurol er mwyn cofnodi hanes agweddau eraill o fywyd y pentref,

Lansiwyd yr addangosfa ar 4ydd Ebrill 2025 gyda chynulleidfa niferus o bobl leol yn bresennol i rannu’r digwyddiad.

Mae’r Pwyllgor yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at greu a chyflwyno’r arddangosfa ac yn  ddiolchgar i Gordon Jones am ei holl waith diflino yn ei churadu mor grefftus. Mae’r Arddangosfa yn adnodd gwerthfawr i gofio ac i ddathlu cyfraniad y Neuadd i fywyd y pentref dros fwy na chanrif.

Os hoffai unrhyw un ymweld â’r arddangosgfa, croeso i chi gysylltu â 07486502605 i drefnu dyddiad ac amser.